Yr Ail Ryfel Byd
Ar 1 Medi 1939, ymosododd Yr Almaen ar Wlad Pwyl. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd Prydain ei fod yn mynd i ryfel â’r Almaen. Roedd Yr Almaen yn ceisio meddiannu Ewrop i gyd ac ar yr un pryd, roedd Siapan yn ceisio rheoli Asia a’r Môr Tawel. Roedd Prydain a llawer o wledydd eraill eisiau atal hynny.
Roedd dau grŵp o wledydd yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Enw un o'r grwpiau oedd "y Cynghreiriaid" sef Prydain, Ffrainc, Unol Daleithiau America, Canada, Awstralia, Seland Newydd, India, Yr Undeb Sofietaidd (Rwsia) a Tsieina. Yr “Axis” oedd yr enw a roddwyd ar y lleill, sef Yr Almaen, Yr Eidal a Siapan.
Roedd rhai gwledydd wedi dewis peidio â chymryd rhan (roedden nhw’n niwtral) fel Sweden, Y Swistir, Sbaen a’r Iwerddon.
Roedd llawer o bobl wedi rhagweld y rhyfel ac wedi dechrau paratoi ar ei gyfer petai’n cychwyn. Erbyn Mai 1939, roedd 10,000 o Lochesi Anderson wedi’u hadeiladau yng Nghaerdydd, ond y gred oedd y byddai angen teirgwaith cymaint ohonyn nhw. Roedd 50 o lochesi cyrchoedd awyr wedi cael eu hadeiladau yng Nghaerdydd erbyn Mehefin 1939 ac roedd 4200 o bobl wedi’u cofrestru i fod yn wardeiniaid cyrchoedd awyr.
Cafodd Caerdydd ei difrodi’n fawr gan y bomiau sawl gwaith - yr adeg waethaf oedd ar 2 Ionawr 1941 pan laddwyd 165 o bobl a difrodwyd mwy na 350 o gartrefi mewn cyrch awyr a barodd am 10 awr. Roedd llawer mwy o gyrchoedd awyr eto i ddod.
Ildiodd Yr Almaen ar 7 Mai 1945 ond aeth y rhyfel yn y Môr Tawel ymlaen tan yr ildiodd Siapan ar 14 Awst 1945.
Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Y Castell
Y prif wahaniaeth yn y ffordd y newidiodd Castell Caerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd bod tyllau wedi’u gwneud ym muriau allanol y Castell i’w ddefnyddio fel mynedfeydd i lochesi cyrchoedd awyr. Oherwydd bod y rhan fwyaf o'r llochesi uwchben lefel y stryd, a oedd yn anarferol i loches, adeiladwyd rampiau mawr o goed i bobl gerdded ar eu hyd i fynd i mewn i’r llochesi. Y bwriad oedd adeiladau tair ar ddeg o fynedfeydd ond nid ydym yn gwybod yn union faint ohonyn nhw gafodd eu hadeiladu yn y pen draw. Mae gennym luniau o rai ohonyn nhw ond pan gafodd y tyllau eu cau, cafodd y gwaith ei wneud gystal fel nad oes modd gweld ble oedd y mynedfeydd o gwbl erbyn hyn.
Roedd “Balŵn Amddiffyn” yn cael ei hedfan o du mewn i Lawnt y Castell. Y syniad tu ôl i’r balwnau anferthol hyn oedd eu hedfan uwchben tref neu ddinas a'u clymu i'r ddaear gan geblau metel mawr (gwifrau). Petai awyrennau’r gelyn yn hedfan yn isel byddan nhw’n cael eu dal yn y gwifrau, felly petai’r gelyn yn gweld Balŵn Amddiffyn, gallai hynny ei atal rhag ymosod ar y lle rhag ofn i’w awyren gael ei difrodi.
Gweld sut mae’r castell wedi newid dros yr oesoedd
Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Pwy oedd yn teyrnasu?
Siôr VI - 1936-1952
Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Caerdydd
Petaech yn cerdded o amgylch Caerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, byddech wedi sylwi ar y paratoadau ar gyfer y cyrchoedd awyr. Roedd gan lawer o bobl lochesi cyrchoedd awyr yn eu cartrefi fel rhai “Anderson” a “Morrison”. Roedd rhai pobl yn cysgodi mewn mannau diogel yn y cartref – o dan y grisiau, er enghraifft.
Roedd “Llochesi Cyhoeddus” i’w cael hefyd, y gellid eu defnyddio os na allai pobl lochesu yn eu cartrefi pan seiniai’r seiren cyrchoedd awyr. Roedd y llochesi hyn wedi’i marcio gydag arwydd “S” mawr. Roedd arwyddion hefyd i ddangos faint o bobl yr oedd pob cysgodfa yn ei ddal.
Y llochesi yng Nghastell Caerdydd oedd y rhai cyhoeddus mwyaf yng Nghaerdydd. Gallai o leiaf 1800 o bobl gael lloches yno.
Rhoddwyd tâp ar y ffenestri i atal y gwydr rhag torri’n deilchion petai bom yn ffrwydro a byddai rhai ffenestri yn cael eu cau gyda briciau fel nad oedd modd eu difrodi.
Oherwydd ei bod yn bwysig nad oedd awyrennau’r gelyn yn gallu gweld golau, roedd y "Blacowt" yn golygu bod rhaid diffodd goleuadau stryd a sicrhau nad oedd golau i'w weld mewn unrhyw dai nac adeiladau. Roedd hi mor dywyll fel bod llawer o bobl yn cael anafiadau wrth faglu neu gerdded i mewn i bethau ac felly peintiwyd llinellau gwyn ar ymylon y palmentydd yn ganllaw i bobl.
Byddai siopau wedi hysbysebu pa nwyddau y gallai pobl eu prynu gyda’u cwponau dogni. Cyhoeddwyd llawer o bosteri hefyd i ddweud wrth bobl sut i ymddwyn yn ystod y rhyfel. Roedd y rhain yn eu hannog i dyfu eu llysiau eu hunain a pheidio â gwastraffu bwyd.
Dioddefodd Caerdydd yn enbyd yn sgil y bomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond nid mor enbyd â llefydd eraill ym Mhrydain. Petaech yn cerdded o amgylch rhai ardaloedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys y Dociau a llefydd fel Grangetown (rhwng y Castell a’r Dociau) byddech yn gweld llawer o gartrefi wedi'u difrodi'n llwyr
Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.