43 AD
Dim tystiolaeth o anheddiad ar y safle lle byddai Castell Caerdydd yn cael ei godi’n ddiweddarach
55 AD
Adeiladu caer Rufeinig ger Afon Taf, ar safle’r castell presennol
75 AD
Codi ail gaer Rufeinig, o faint llai, yn lle’r gaer gyntaf
110 AD
Codi trydedd gaer Rufeinig, o faint llai eto, yn lle’r ail gaer.
270 AD
Codi pedwaredd gaer Rufeinig yn lle’r drydedd. Mae ar yr un safle ac o’r un maint â’r castell presennol.
400 AD
Gadael y gaer Rufeinig
1081
Gwilym Goncwerwr yn pasio drwy ardal Caerdydd ac yn sylfaenu castell newydd oddi mewn i adfeilion yr hen gaer Rufeinig
1093
Robert Fitzhamon yn preswylio yng Nghastell Caerdydd fel Arglwydd Morgannwg
1113
Robert Fitzroy (‘y Conswl’) yn olynu Arglwydd Morgannwg ac yn preswylio yng Nghastell Caerdydd
1126
Robert Curthose, brawd Brenin Harri I, yn cael ei garcharu yng Nghastell Caerdydd am wyth mlynedd
1135
Robert y Conswl yn adeiladu’r gorthwr 12 ochr o garreg
1158
Ifor Bach, Arglwydd Senghennydd, yn herwgipio Wiliam o Gaerloyw (olynydd Robert y Conswl) o Gastell Caerdydd, ynghyd â’i wraig a’i blentyn. Mae’n eu rhyddhau wedi iddo gael tir a gymerwyd oddi arno yn ôl.
1217
Y teulu de Clare yn cychwyn 100 mlynedd o berchnogaeth ar Gastell Caerdydd ac yn gwneud llawer o waith gwella i’r amddiffynfeydd
1314
Llinach Despenser yn cychwyn 100 mlynedd o berchnogaeth ar Gastell Caerdydd
1316
Y gwrthryfelwr, Llywelyn ap Gruffudd, yn difrodi Castell Caerdydd a’r dref
1318
Llywelyn ap Gruffudd yn cael ei ddal a’i ddienyddio yng Nghastell Caerdydd ar orchymyn Hugh Despenser
1321
Mewn gwrthryfel, barwniaid yn ymosod ar holl gestyll Despenser castles, gan gynnwys Castell Caerdydd
1404
Owain Glyndŵr yn cipio Caerdydd ac yn ei llosgi, gan ddifrodi rhannau helaeth o’r castell a’r dref
1422
Richard Beauchamp, Iarll Warwig, yn adeiladu craidd ‘tŷ’ Castell Caerdydd.
1449
Castell Caerdydd yn cael ei etifeddu gan Richard Neville – “Warwig y Breninwneuthurwr”
1485
Castell Caerdydd yn cael ei drosglwyddo o’r Brenin Rhisiart III i’r Brenin Harri VII
1551
Y Brenin Edward VI yn rhoi Castell Caerdydd yn rhodd i William Herbert, Iarll Penfro
1570
Henry Herbert yn dechrau rhaglen o atgyweiriadau ac estyniadau ar dŷ Castell Caerdydd ac yn gosod gerddi
1643
Yn ystod y Rhyfel Cartref, y Brenin Siarl yn meddiannu Castell Caerdydd ac yn gyrru Philip Herbert a gefnogai achos y Senedd, oddi yno. Y Brenin yn aros yn y castell ar un achlysur o leiaf.
1645
Lluoedd y Senedd yn adfeddiannu Castell Caerdydd
1648
Oliver Cromwell yn ymweld â Chastell Caerdydd
1649
Y Senedd yn penderfynu peidio dymchwel Castell Caerdydd, ond y castell yn parhau i fod wedi’i ddifrodi’n fawr, ac yn cael ei adael i fynd a’i ben iddo am gan mlynedd
1776
John Mounstuart, 4ydd Iarll Bute (Ardalydd 1af Bute yn ddiweddarach) yn caffael Ystâd Morgannwg a Chastell Caerdydd. Capability Brown yn clirio a thirweddu’r ardal o laswellt. Henry Holland yn ailfodelu ac yn estyn y tŷ.
1848
Yr Arglwyddes Sophia Bute, gwraig yr 2il Ardalydd, yn dechrau gwaith i adfer rhan o’r castell
1868
3ydd Ardalydd Bute yn comisiynu’r pensaer William Burges i ddechrau creu’r ffantasi neo-Gothig a welir heddiw. Codir tyrrau newydd, rhodfeydd newydd ar y waliau a neuadd wledda fwy. Caiff nodweddion canoloesol ar y llecyn glaswelltog eu cloddio, ac arddangosir yr adfeilion.
1881
Marwolaeth Burges, ond ei gynorthwywyr yn parhau â’r gwaith pensaernïol ar y castell.
1889
Darganfod adfeilion waliau’r gaer Rufeinig ddiweddaraf. Dechrau gwaith i ailgodi’r waliau Rhufeinig a welir heddiw.
1900
Marwolaeth 3ydd Ardalydd Bute.
1922
O dan y 4ydd Ardalydd, cwblhau’r gwaith o ailgodi’r waliau Rhufeinig a chodi neu ailgodi tyrrau a giatiau eraill.
1930
Symud ‘wal anifeiliaid’ Burges i flaen y castell i’w leoliad presennol ar hyd ymyl Parc Bute.
2008
Canolfan Ddehongli ac arddangosiadau newydd yn agor yn y castell