Y Cyfnod Fictoraidd
Pan oedd y Frenhines Fictoria yn teyrnasu (y cyfnod Fictoraidd), newidiodd Prydain yn gyflym dros ben.
Roedd y Frenhines Fictoria yn teyrnasu dros lawer o wledydd eraill yn yr “Yr Ymerodraeth Brydeinig” gan gynnwys India, Awstralia, Seland Newydd, Canada, De Affrica a Hong Kong. Yn wir, roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn cynnwys mwy na chwarter y byd ar y pryd, felly roedd Prydain yn wlad bwerus dros ben.
Daeth y ‘Chwyldro Diwydiannol’, gyda pheiriannau'n cael eu datblygu i wneud pethau'n haws i'w cynhyrchu. O ganlyniad adeiladwyd llawer o ffatrïoedd ac roedd angen mwy o dai i’r bobl a oedd yn gweithio ynddyn nhw.
Roedd yn rhannol oherwydd y Chwyldro Diwydiannol y dyfeisiwyd llawer o bethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol heddiw. Mae rhai o’r rheiny yn cynnwys:
Ceisiwch ddefnyddio llyfr neu’r rhyngrwyd i ddysgu mwy am ddyfeisiadau Fictoraidd.
Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Y Castell
Aeth Castell Caerdydd drwy gyfnod o newid mawr yn ystod y cyfnod Fictoraidd. Mae pobl fel arfer yn sôn am yr hyn a wnaeth trydydd Ardalydd Bute (John Patrick Crichton Stuart) i newid Castell Caerdydd yn ystod y cyfnod Fictoraidd ond mae'n bwysig cofio bod dau Ardalydd arall wedi bod yn berchen ar Gastell Caerdydd yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd.
Y cyntaf oedd John Crichton-Stuart, tad y trydydd Ardalydd. Roedd eisoes wedi dechrau newid Castell Caerdydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond yn dilyn ei farwolaeth daeth ei fab (y trydydd Ardalydd) yn enwog am y newidiadau a gyflwynodd yng Nghastell Caerdydd.
Cyflogodd y Trydydd Ardalydd bensaer o’r enw William Burges. Roedd y ddau wedi gwirioni ar y cyfnod canoloesol a gyda'i gilydd aethon nhw ati i newid y Castell, yn fewnol ac yn allanol. Adeiladon nhw dyrrau ychwanegol (fel y Tŵr Cloc enwog) a thu mewn fe wnaethon nhw addurno llawer o'r ystafelloedd i edrych fel ystafelloedd mewn castell o'r canoloesoedd. Gallwch fynd i weld yr ystafelloedd hyn os dewch chi i’r Castell.
Gweld sut mae’r castell wedi newid dros yr oesoedd
Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Pwy oedd yn teyrnasu
Y Frenhines Fictoria - 1837-1901
Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Caerdydd
Petaech yn cerdded o amgylch y dref yn ystod y cyfnod Fictoraidd byddech wedi gweld lle bywiog a phrysur gyda ffyrdd cul, llawer o siopau a nifer fawr o adeiladau newydd yn codi.
Roedd yr ardal y tu allan i’r Castell yn edrych yn wahanol iawn. Roedd Wal yr Anifeiliaid, sydd erbyn hyn ymhellach i lawr ar hyd y ffordd, yn union y tu allan i fynedfa'r Castell. Roedd siâp cwbl wahanol ar y llwybr at y brif fynedfa hefyd – roedd tro ynddo fel y gallai'r bobl mewn cerbydau a dynnwyd gan geffylau groesi’n syth ar draws y Stryd Fawr gyferbyn. Roedd tramiau a “Bysus Troli” yn cludo pobl o amgylch y dref gan fynd heibio tu blaen y Castell.
Un o’r prif wahaniaethau y tu allan i’r Castell oedd bod tai wedi’u hadeiladu yn erbyn y mur o’r fynedfa i gyfeiriad Heol y Frenhines. Roedd y rheiny yno tan y 1920au.
Roedd Ail Ardalydd Bute wedi dechrau adeiladau’r dociau yng Nghaerdydd, (sydd bellach yn rhan o Fae Caerdydd) ac yn bennaf oherwydd yr arian a wnaeth o'r Dociau y gallai ei fab (y trydydd Ardalydd) fforddio newid cymaint ar Gastell Caerdydd.
Byddai gwahaniaeth mawr wedi bod rhwng y bobl gyfoethog a oedd yn gwneud arian yn sgil y Chwyldro Diwydiannol a datblygiadau yng Nghaerdydd a’r bobl dlawd a oedd wedi dod i Gaerdydd i weithio mewn llefydd fel Dociau Caerdydd.
Yn y dref, roedd mwy a mwy o dai’n cael eu hadeiladu fel bod gan y gweithwyr a oedd yn dod i Gaerdydd rywle i fyw ond roedd amodau byw llawer iawn ohonyn nhw’n ddychrynllyd.
Os cerddwch o amgylch Caerdydd heddiw, fe welwch lawer o'r cartrefi a adeiladwyd yn ystod y cyfnod Fictoraidd.
Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.