Gwybodaeth am wefan Teithiwr Amser Castell Caerdydd
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Castell, chwarae gemau a theithio drwy amser gyda chymeriadau o’r gorffennol.
Wrth ymweld â’r Castell gallwch wrando ar y cymeriadau ar y canllaw i blant neu ddilyn Llwybr y Teulu.
Cliciwch trwy
hanes i gael gwybod sut roedd pobl yn byw yn ystod gwahanol gyfnodau o hanes, neu ewch i’r
llinell amser i weld sut le oedd y Castell a beth oedd yn digwydd yng Nghaerdydd ar y pryd.
Os ydych yn ymweld â’r Castell fel rhan o ymweliad ysgol gyda'ch dosbarth gallwch ddefnyddio'r tudalennau hyn i baratoi ar gyfer eich ymweliad neu ar ôl eich ymweliad pan fyddwch chi’n gwneud gwaith yn yr ystafell ddosbarth.
Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau teithio drwy amser gyda ni!
Ar gyfer Athrawon
Mae’r tudalennau hyn hefyd wedi'u creu i gefnogi ymweliad addysgol a rhoi cyd-destun hanesyddol i'r 2,000 o flynyddoedd o hanes y gellir eu trafod wrth ymweld â'r Castell.
Gweler y tudalennau ar ein hymweliadau addysgol (dolen i hafan y wefan addysg) i gael rhagor o fanylion am drefnu
ymweliad ysgol, ein rhaglen o weithgareddau addysgol arbennig a chysylltiadau trawsgwricwlaidd.